Mae cyfoeth o wybodaeth a chymorth ar gael i drefnwyr digwyddiadau. Cliciwch ar y cysylltiadau isod i gael rhagor o wybodaeth. Allwch chi anfon gwybodaeth am ddigwyddiadau yn eich ardal chi atom yn rheolaidd? Os felly, ffoniwch Davina ar 01654 702653 neu e-bostiwch ni.
Gall Cynllun Cefnogi Marchnata Digwyddiadau PTCC gynnig hyd at 50% o gost marchnata digwyddiadau.
Lawrlwythwch Ganllaw a Ffurflen Gais am Grantiau PTCC 115KB
Mae Pecyn Cymorth Cynllunio Gwyliau a Digwyddiadau Canolbarth Cymru yn cynnwys popeth y mae arnoch angen ei wybod am gynllunio digwyddiad – cymorth hanfodol i drefnwyr digwyddiadau.
Lawrlwythwch y Pecyn Cymorth Cynllunio Gwyliau a Digwyddiadau
Rhaglen datblygu pobl yw "Medrwn". Mae’n cynnig hyfforddiant am ddim neu am bris gostyngol iawn wedi’i drefnu’n arbennig i ateb anghenion y diwydiant croeso yn yr ardal. Os hoffech ragor o wybodaeth, ffoniwch Alwena Price ar 01654 704201.
Os ydych yn chwilio am ‘siop-un-stop’ dda ym maes cymorth i fusnesau, mae gwefan Whodoiask.com yn llawn dop o wydodaeth y gallwch ei lawrlwytho. www.whodoiask.com
Mae ein tîm digwyddiadau wrthi’n barhaus yn diweddaru’r wybodaeth ar y wefan hon. A fyddech chi’n hoffi cael rhestr gyflawn o ddigwyddiadau a gwyliau ar eich gwefan chi? Os felly, bech am gynnwys cysylltiad i http://www.midwalesevents.co.uk
Efallai mai dim ond rhan o’r rhestr ddigwyddiadau y mae arnoch ei hangen, e.e. digwyddiadau yn eich ardal chi, neu borthiant xml mwy soffistigedig. Os hoffech drafod eich anghenion, ffoniwch Val Hawkins ar 01654 702653 neu e-bostiwch ni.
Os hoffech gael e-lythyrau rheolaidd am y prosiect hwn, rhowch wybod i ni yma.
Gan fod cannoedd o ddigwyddiadau wedi’u rhestru ar y wefan hon, bydd yn ddefnyddiol iawn i fusnesau a grwpiau twristiaeth. Gallwch greu cysylltiad o’ch gwefan chi i’r wybodaeth hon. Rhowch wybod i ni ym mha ardal yr ydych neu pa fath o ddigwyddiadau yr hoffech gynnwys gwybodaeth amdanynt, ac fe wnawn ni drefnu cysylltiad ‘tudalen wen’ unigryw y gall dylunydd eich gwefan ei ddefnyddio. E-bostiwch ni i gael y cysylltiad
E-bostiwch ni i roi manylion eich digwyddiad – enw, lleoliad, dyddiad, prisiau mynediad a disgrifiad byr. Os ydych yn atyniad neu’n drefnydd gweithgareddau sy’n cynnal nifer o ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn, gallwch lenwi’r ffurflen hon....... Lawrlwythwch y ffurflen ddigwyddiadau